Skip navigation
Y rhif newydd l'w ffonio yw - pan fydd ynllai pwysig na 999

Home Office logo

Directgov logo

Department for Communities and Local Government logo

Pryd i ffonio 101

Mae llinell ffôn 101 yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chamau gweithredu ar gyfer materion diogelwch cymunedol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ffoniwch 101 os oes gennych broblemau gyda:

  • fandaliaeth a graffiti;
  • niwsans sŵn;
  • ymddygiad bygythiol ac ymosodol;
  • cerbydau gadawedig;
  • sbwriel a thipio anghyfreithlon;
  • grwpiau meddw a therfysglyd;
  • ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â chyffuriau;
  • goleuadau stryd wedi’u torri.

Gwasanaeth ar gyfer problemau nad ydynt yn rhai brys yn unig yw 101 ac nid yw’n disodli’r gwasanaeth brys 999.

Dylech ffonio 999:

  • os oes rhywun yn bod yn dreisgar neu’n bygwth bod yn dreisgar;
  • os oes perygl i fywyd;
  • os oes trosedd yn cael ei chyflawni neu os oes rhywun wedi tarfu ar droseddwyr a oedd yn cyflawni trosedd yn ddiweddar;
  • os oes damwain ffordd wedi bod lle mae pobl wedi’u hanafu, neu os oes damwain wedi bod lle nad oes neb wedi’u hanafu ond sydd wedi effeithio ar draffig.

Mae 101 yn gweithio ar y cyd â 999 a bydd cynghorwyr yn cyfeirio’r sawl sy’n ffonio at y gwasanaeth brys os bydd angen ymateb 999.