Croeso i 101
Mae 101 yn rhif newydd 24 awr a ddarperir gan eich heddlu a'ch cyngor lleol i ddelio â materion diogelwch cymunedol, gan gynnwys trosedd nad yw'n argyfwng, plismona ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae 101 ar gael mewn 3 ardal ledled Cymru a Lloegr: Hampshire ac Ynys Wyth, Caerdydd a Sheffield.
Mae 101 ar gyfer:
- fandaliaeth a graffiti;
- niwsans sŵn;
- ymddygiad bygythiol ac ymosodol;
- cerbydau gadawedig;
- sbwriel a thipio anghyfreithlon;
- grwpiau meddw a therfysglyd;
- ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â chyffuriau;
- goleuadau stryd wedi’u torri.
Mae galwadau i’r gwasanaeth yn costio 10c o linellau tir a ffonau symudol a chânt eu recordio at ddibenion hyfforddi, monitro ansawdd a diogelwch y cyhoedd.
Dylech ffonio 999 o hyd pan fydd perygl dybryd neu os byddwch yn dyst i drosedd.