Skip navigation
Y rhif newydd l'w ffonio yw - pan fydd ynllai pwysig na 999

Home Office logo

Directgov logo

Department for Communities and Local Government logo

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw 101?
Mae 101 yn rhif cyfrinachol 24 awr sy’n rhoi mynediad uniongyrchol at gyngor, gwybodaeth a chamau gweithredu ar faterion diogelwch cymunedol, yn cynnwys trosedd nad yw’n drosedd frys, plismona ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Yn ôl i’r brig

Beth mae 101 yn ei wneud?
Mae’r gwasanaeth 101 yn darparu cyngor, gwybodaeth a chamau gweithredu ar y materion canlynol:

  • fandaliaeth a graffiti;
  • niwsans sŵn;
  • ymddygiad bygythiol ac ymosodol;
  • cerbydau gadawedig;
  • sbwriel a thipio anghyfreithlon;
  • grwpiau meddw a therfysglyd;
  • ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â chyffuriau;
  • goleuadau stryd wedi’u torri.

A fydd 101 yn disodli 999?
Gwasanaeth ar gyfer problemau nad ydynt yn rhai brys yn unig yw 101 ac nid yw’n disodli’r gwasanaeth brys 999.

Dylech ffonio 999:

  • os oes rhywun yn bod yn dreisgar neu’n bygwth bod yn dreisgar;
  • os oes perygl i fywyd;
  • os oes trosedd yn cael ei chyflawni neu os oes rhywun wedi tarfu ar droseddwyr a oedd yn cyflawni trosedd yn ddiweddar;
  • os oes damwain ffordd wedi bod lle mae pobl wedi’u hanafu, neu os oes damwain wedi bod lle nad oes neb wedi’u hanafu ond sydd wedi effeithio ar draffig.

Mae 101 yn gweithio ar y cyd â 999 a bydd cynghorwyr yn cyfeirio’r sawl sy’n galw at y gwasanaeth brys os bydd angen ymateb 999.

Bydd y gwasanaeth 101 yn ategu’r gwasanaethau presennol nad ydynt yn rhai brys yn hytrach na’u dyblygu, a bydd yn gwella darpariaeth y gwasanaethau hyn drwy ddarparu ymateb mwy cydgysylltiedig a gwybodus gan asiantaethau lleol.

Gyda phwy y byddaf yn siarad?
Byddwch yn siarad ag un o'n cynghorwyr 101 a fydd wedi'u hyfforddi'n drwyadl, a fydd yn delio ag ymholiadau, 24 awr y dydd, dros y ffôn drwy roi cyngor a gwybodaeth lle y bo angen, gan drefnu i gymryd camau pan fo'n briodol neu drwy gyfeirio'r galwr at berson neu sefydliad a all eu helpu.

Yn ôl i’r brig

Ble mae'r gwasanaeth 101 ar gael?
Mae’r gwasanaeth 101 ar gael yn yr ardaloedd canlynol: Hampshire ac Ynys Wyth, Caerdydd a Sheffield.

Pam nad yw’r gwasanaeth 101 ar gael yn Ninas Caerlŷr, Rutland, Melton a Harborough a Northumberland, Tyne a Wear mwyach?
Yn dilyn penderfyniad gan y Swyddfa Gartref i ddod â’r cyllid uniongyrchol i ben ar gyfer gweithrediadau byw 101 ond i barhau i ddarparu’r cyllid ar gyfer seilwaith teleffoni 101, mae Partneriaeth Caerlŷr a Phartneriaeth Northumberland wedi gwneud y penderfyniad anodd i beidio â pharhau i ddarparu’r gwasanaeth 101 oherwydd pwysau ariannol.

Os bydd angen i chi roi gwybod am faterion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ddiogelwch cymunedol ewch i dudalennau Partneriaeth Caerlŷr a Northumberland, Tyne a Wear ar y wefan hon am fanylion cyswllt amgen.

Rwyf wedi ceisio ffonio 101, ond dim ond distawrwydd sydd yna, neu'r dôn dim rhif?
Mae’n bosibl nad yw eich darparwr telathrebu yn cario’r rhif ar hyn o bryd, neu fod gwall technegol yn y cysylltiad. Rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â’ch darparwr telathrebu fel ei fod yn ymwybodol o’ch anhawster. Mae hefyd yn bosibl i chi gysylltu â phob canolfan 101 gan ddefnyddio rhif ffôn llinell tir a restrir ar y tudalennau ardaloedd 101 unigol. Rydym yn parhau i weithio gyda darparwyr telathrebu i sicrhau y gall y nifer fwyaf posibl fanteisio ar wasanaeth 101.

Rwyf wedi ceisio ffonio 101 ond caf neges yn dweud fy mod y tu allan i’r ardal. Credaf fy mod y tu mewn i’r ardal.
Gwiriwch y mapiau ardal 101 ar y wefan hon. Os credwch eich bod yn yr ardal o hyd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r rhif ffôn llinell tir perthnasol ar gyfer yr ardal honno a restrir ar y tudalennau ardaloedd 101 unigol.

Rwyf wedi hysbysu cynghorydd 101 o broblem ac rwyf am ddarparu gwybodaeth ychwanegol neu holi am fy ymholiad ond rwyf y tu allan i’r ardal bellach, sut gallaf gysylltu â’r ganolfan 101?
Defnyddiwch y rhif llinell tir uniongyrchol ar gyfer yr ardal 101 berthnasol a restrir ar y tudalennau ardaloedd 101 unigol er mwyn cysylltu â’r ganolfan 101.

Yn ôl i’r brig

A fydd y gwasanaeth yn cynnwys yr Alban a Gogledd Iwerddon?
Mae'r Alban a Gogledd Iwerddon yn datblygu eu systemau eu hunain ond maent yn ymwybodol o'r rhaglen ac yn ystyried eu cyfranogiad.

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn rhoi gwybod am broblem?
Pan fyddwch yn rhoi gwybod am broblem sy'n gofyn am gamau gweithredu gan yr heddlu neu'r cyngor lleol, bydd y cynghorydd 101 yn cymryd y manylion gennych. Byddant yn rhoi rhif achos i chi gan ddweud wrthych pryd y gallwch ddisgwyl i gamau gweithredu gael eu cymryd. Bydd y cynghorydd yn rhoi'r wybodaeth a ddarparwyd gennych i'r sefydliad sy'n darparu'r gwasanaeth priodol, er enghraifft, y cyngor lleol neu Bartneriaeth Lleihau Trosedd ac Anhrefn, i’w rhoi ar waith o fewn yr amser y cytunwyd arno.

Faint fydd cost galwad 101?
Codir cyfradd sefydlog o 10c yr alwad am bob galwad i'r gwasanaeth 101, p'un a ydynt yn alwadau o linellau tir neu ffonau symudol.

Gwnaed y penderfyniad hwn yn dilyn ymgynghoriad â grŵp eang o randdeiliaid ac ymchwil gyda'r cyhoedd. Dangosodd yr ymchwil na fyddai codi tâl sefydlog bach yn peri i bobl beidio â ffonio'r gwasanaeth. Dewis ein rhanddeiliaid a chyngor proffesiynol arbenigwyr oedd codi 10c yr alwad gan y bydd hyn yn lleihau'r tebygolrwydd o gamddefnyddio'r gwasanaeth.

Bydd y tâl a godir am alwad yn mynd at y darparwyr telathrebu i'w osod yn erbyn y gost iddynt o gario'r galwadau.

Pam y dewiswyd 101 fel y rhif ar gyfer y gwasanaeth?
Dewiswyd 101 fel rhif tri digid newydd y gwasanaeth Un Rhif Nad yw'n Frys am mai dyma'r rhif mwyaf cofiadwy o'r rheini sydd ar gael i'w defnyddio ar gyfer y gwasanaeth ac roedd yn hawdd i bobl â nam ar eu golwg ei ddeialu. Dewiswyd hwn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus gan Ofcom ac ymchwil gyda rhanddeiliaid a’r cyhoedd. Cadarnhaodd Ofcom 101 fel y rhif tri digid newydd yn swyddogol ar 8 Mawrth 2006.

Yn ôl i’r brig

Sut y bydd y gwasanaeth 101 yn delio â galwyr nad ydynt yn siarad Saesneg?
Bydd gan y gwasanaeth ddarpariaeth aml-iaith drwy wasanaethau cyfieithu megis Language Line.

A gaiff y gwasanaethau eu darparu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos?
Er y gellir cysylltu â chynghorwyr 101 bob awr o'r dydd, bob dydd o'r wythnos, nid yw rhai gwasanaethau yn cael eu darparu 24 awr y dydd ar hyn o bryd - er enghraifft, gwaith cynghorau lleol i lanhau graffiti.  Caiff galwyr wybod pa lefel o wasanaeth i'w disgwyl mewn ymateb i'w galwad.

Bydd partneriaethau yn gallu defnyddio'r wybodaeth a roddir mewn galwadau i 101 i newid gwasanaethau a gwella perfformiad.

Hysbysir galwyr o lefel y gwasanaeth i'w disgwyl mewn ymateb i'w galwad.  Mae'r heddlu a chynghorau lleol yn defnyddio'r wybodaeth a roddir mewn galwadau i 101 i newid gwasanaethau a gwella perfformiad.

A fydd galwadau i'r gwasanaeth 101 yn cael eu trosglwyddo i'r gwasanaeth brys os bydd angen?
Byddant. Bydd cynghorwyr 101 yn gallu cyfeirio galwadau at y gwasanaeth brys 999 drwy ddefnyddio protocolau presennol ar gyfer trosglwyddo galwadau i 999.

Pwy fydd yn darparu'r gwasanaeth 101?
Ariennir y seilwaith teleffoni canolog gan y Swyddfa Gartref a chaiff gwasanaethau lleol eu darparu gan y bartneriaeth leol rhwng yr heddlu a'r awdurdod lleol.

Gall staff yr heddlu neu'r awdurdodau lleol ddelio â'r galwadau. Mae pob partneriaeth leol wedi cytuno ar yr ymagwedd orau ar gyfer eu hardal i sicrhau y caiff y gwasanaeth ei ddarparu'n effeithiol er mwyn rhoi ymateb di-dor.  

A yw'r gwasanaeth 101 ar gael i bobl â nam ar eu lleferydd neu eu clyw?
Ydy. Gallwch bellach ddefnyddio’r gwasanaeth 101 drwy ddefnyddio’r gwasanaeth Text Direct/TypeTalk: 18001 101. Gallwch ganfod a ydych mewn ardal 101 drwy edrych ar y mapiau Partneriaeth ar y wefan hon.

Yn ôl i’r brig