Skip navigation
Y rhif newydd l'w ffonio yw - pan fydd ynllai pwysig na 999

Home Office logo

Directgov logo

Department for Communities and Local Government logo

Beth yw 101?

Gwnaed tua 10 miliwn o alwadau 999 i'r heddlu yn ystod 2004, ond yn rhyfeddol, nid oedd 70% o'r rhain yn alwadau am argyfyngau go iawn.

Nid oes angen ymateb brys ar bob problem, ond mae llawer o bobl yn ffonio 999 gan na wyddant beth arall i’w wneud. Er bod cynghorau lleol a’r heddlu yn darparu llinellau cymorth ar hyn o bryd ar gyfer problemau nad ydynt yn rhai brys, roedd llai na 30% o’r bobl a holwyd yn gwybod amdanynt.

Bydd 101 yn gwneud cymunedau lleol yn fannau mwy diogel i fyw a gweithio ynddynt. Bydd y gwasanaeth hygyrch iawn sydd ar gael bob awr o bob dydd yn gweithredu ar ran y cyhoedd ac yn rhoi cyngor a gwybodaeth iddynt am faterion diogelwch cymunedol, gwell cydweithio rhwng cynghorau lleol a’r heddlu, gwell gwybodaeth am ba broblemau sy’n codi ac ymhle y maent, a bydd yn gwella’r rheolaeth o adnoddau a gwasanaethau i’r cyhoedd.

Mae'r manteision o gael un rhif yn cynnwys:

  • Gwell mynediad at wasanaethau nad ydynt yn rhai brys. Drwy gynnig un pwynt cyswllt sy'n hawdd ei gofio, mae 101 yn darparu mynediad uniongyrchol at wasanaethau nad ydynt yn rhai brys, cyngor a gwybodaeth.

  • Gwell gwasanaethau nad ydynt yn rhai brys. Bydd 101 yn darparu gwybodaeth busnes well ac yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau cyhoeddus gydweithio, gan uno’r ddarpariaeth o wasanaethau nad ydynt yn rhai brys a gwella eu gwasanaeth i’r cyhoedd.

  • Mwy o hyder mewn gwasanaethau cyhoeddus, drwy fynediad hawdd at gyngor a gwybodaeth o safon uchel a chamau gweithredu effeithiol ar ddiogelwch cymunedol.

  • Gwell gwasanaethau brys 999. Bydd ffonio 101 ar gyfer problemau nad ydynt yn rhai brys yn ysgafnhau’r pwysau ar y gwasanaethau brys, gan arwain at ymateb cyflymach i alwadau brys go iawn a gwelliannau i wasanaeth. Mae hwn yn fantais tymor hir a fydd yn cael ei weld wrth i ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth 101 wella.

Edrychwch i weld a ydych mewn ardal 101.